David Rees AS
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
 Mick Antoniw AS
 Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

     

    


24 Medi 2020

Annwyl David a Mick,

Craffu ar drefniadau ymadael â’r UE

Ymhellach i’r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd dyddiedig 20 Gorffennaf, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn trafod sut y bydd y newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil Brexit yn effeithio ar y cyllid sydd ar gael yng Nghymru, a’n rôl o ran craffu ar y newidiadau hyn.

Mae’n amlwg y bydd newidiadau i raglenni cyllid, y cynigion ynghylch y farchnad fewnol a deddfwriaeth ymadael â’r UE yn effeithio ar gylch gwaith pob un o’n Pwyllgorau, ac rwyf am ystyried sut y gall gwaith y Pwyllgor Cyllid ychwanegu gwerth i’r gwaith sydd gennych chi ar y gweill ar hyn o bryd. Yn ogystal, gallai fod yn ddefnyddiol inni ystyried a allai gwaith craffu ar y cyd fod yn ddefnydd effeithiol o amser y Pwyllgorau a’r Gweinidogion.

Byddwn yn croesawu cael eich barn ynghylch a fyddai gwaith ar cyd yn ddefnyddiol ac ynghylch unrhyw ffyrdd eraill y gall gwaith y Pwyllgor Cyllid ategu gwaith eich Pwyllgorau.

Llyr Gruffydd AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.